SL(5)358 – Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Rheoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008 a Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 i geisio sicrhau bod y llyfr statud yn parhau i fod yn weithredol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE.

Gwneir y Rheoliadau gan ddefnyddio'r pŵer a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf Ymadael 2018.

Gweithdrefn

Negyddol

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn:

1.     Mae testun Saesneg rheoliad 3(11)(c) wedi'i rannu'n ddau is-baragraff; mae tri pharagraff yn y testun Cymraeg.  Mae hyn oherwydd bod cyd-destun y diwygiadau i'r testun Cymraeg yn gofyn iddynt gael eu mynegi ychydig yn wahanol, fel bod is-baragraff (ii) yn y testun Saesneg yn cyfateb i is-baragraffau (ii) a (iii) yn y testun Cymraeg.  Byddai'r cysylltiad rhwng y paragraffau yn gliriach pe bai'r ddau newid wedi'u cysylltu gan 'ac' o fewn is-baragraff (ii) o'r testun Cymraeg yn hytrach na'u rhannu'n ddau is-baragraff. (Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol).

2.     Mae'r modd y rhifwyd testun Cymraeg rheoliad 3(21)(e) yn ddiffygiol, ac nid yw'n cyfateb i'r modd y rhifwyd y Saesneg.  Mae is-baragraff (ii) yn cyflwyno is-baragraff (1A) newydd i'r prif Reoliadau; dylai testun y mewnosodiad ddilyn yn syth o hynny yn hytrach nag ymddangos fel is-baragraff (iii).  Mae'r un broblem hefyd yn codi gydag is-baragraffau (iv) a (v).  Felly mae dau is-baragraff ychwanegol yn y testun Cymraeg nag sydd yn y testun Saesneg. (Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol).

Rhinweddau: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad ar gyfer sifftio yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Cytunodd y Pwyllgor mai gweithdrefn y penderfyniad negyddol yw’r weithdrefn briodol ar gyfer y Rheoliadau hyn.

 

 

 

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

8 Mawrth 2019